Darganfod Sir Gaerfyrddin
CIPOLWG AR

Arfordir Sir Gaerfyrddin

Nid ardaloedd gwledig gleision yn unig mo Sir Gaerfyrddin; mae gennym rai o'r traethau euraidd mwyaf godidog yn Ewrop.

Cefn Sidan, Pembrey

Traeth Cefn Sidan, Pen-bre

Cefn Sidan, Pembrey

Mae'r stormdraeth hwn yn lle gwych i bysgota a cherdded. Cadwch lygad am slefrod môr wrth y marc penllanw a chofiwch nad yw pob rhywogaeth yn pigo. Mae'r un fwyaf cyffredin, sef y slefren gylchog, yn dal plancton yn ei mwcws wrth fynd drwy'r dŵr. Os yw'n rhy wyntog, ewch tua'r tir am dro i Barc Gwledig a Choedwig Pen-bre. Mae'r ardal gyfan yn agored i'r cyhoedd ac mae yno adeiladau Arfau'r Goron a safleoedd gynnau o ddyddiau'r ail ryfel byd. Erbyn hyn mae'r adeiladau hyn wedi eu dynodi'n rhai sydd o bwys hanesyddol.
Map ›

  • Mae toiledau a chaffi ger y fynedfa i'r traeth.
  • Mae toiledau ym Mharc Gwledig Pen-bre.
  • Mae gwybodaeth am y parc a'r traeth ar y map cyfleusterau.
  • Ni chaniateir cŵn ar y prif draeth rhwng mis Mai a mis Medi.
  • Mae digonedd o leoedd parcio ar gael (codir tâl am barcio wrth gael mynediad i Barc Gwledig Pen-bre).
  • Canolfan Ymwelwyr.
  • Mae mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn ledled y parc ac ar hyd y fynedfa i'r traeth.
  • Mae llwybr beicio cenedlaethol 4 gerllaw.
  • Yn agos at y Llwybr Arfordir Cymru.
  • Ffôn: 01554 742424.

Pentywyn

Pendine

Dyma draeth ac iddo ddwy ran. I gyfeiriad y gorllewin mae clogwyni trawiadol â llwybrau ar hyd eu hymylon ynghyd â llawer o byllau glan môr (yn ddiddorol ddigon cafodd yr ardal hon ei defnyddio yn ystod yr ail ryfel byd i ymarfer ar gyfer glaniadau 'D-Day'!). Am lawer milltir i gyfeiriad y dwyrain y mae un o draethau tywodlyd hiraf Cymru, lle bu ymdrechion hanesyddol i dorri record cyflymder y byd dros dir a lle mae maes tanio y mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ei ddefnyddio'n rhan-amser. Ym mhen draw'r traeth hwn mae gwelyau cocos enfawr y mae pobl yn casglu ohonynt drwy'r flwyddyn, a dengys hyn pa mor bur yw dyfroedd Bae Caerfyrddin.
Map ›

  • Parcio (codir tâl).
  • Mae toiledau ger y traeth.
  • Ni chaniateir cŵn yn yr ardal rhwng y llithrfeydd rhwng mis Mai a mis Medi.
  • Mae caffis a bwytai yng nghyffiniau'r fynedfa i'r traeth.
  • Mae Pentywyn ar Lwybr Arfordir Cymru.
  • Mae mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn ar hyd y blaendraeth.

Lacharn

Laugharne

"i lawr at y mâr pygddu, dudew fel y fagddu, lle mae'r cychod pysgota'n hen aflonyddu..", nid oes angen cyflwyniad ar y lle hwn a fu'n gymaint o ysbrydoliaeth i Dylan Thomas. Mae ei sied ysgrifennu, ar lan aber afon Taf, ar agor i'r cyhoedd (cartrefdylanthomas.com) Hefyd mae castell yn Lacharn ac amryw lefydd o safon i fwyta ac yfed, yn cynnwys tafarndai y bu Dylan yn eu mynychu'n aml. Os hoffech wneud rhywbeth mwy iach, mae digon o deithiau cerdded yn y gelltydd llethrog, lle mae golygfeydd ysblennydd dros yr afon ac i gyfeiriad y môr.
Map ›

  • Mae toiledau, caffis a bwytai ym mhentref Lacharn.
  • Mae lleoedd parcio ar gael ym maes parcio'r castell.
  • Dim ond yn y pentref ac ar hyd y llwybr oddi tan y castell ger yr aber y mae mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn.
  • Mae Lacharn ar Lwybr Arfordir Cymru.
  • Mae Castell Talacharn gerllaw (Codir tâl mynediad).

Traeth Llansteffan a Bae Scott

Llansteffan Beach

Saif un o gadarnleoedd eraill Cymru'r gorffennol yn Llansteffan, sef y castell a godwyd yno gan y Normaniaid yn y ddeuddegfed ganrif. Mae'r castell yn enwog am ei borthdy enfawr ac am ei olygfeydd gwych o aberoedd Tywi a Thaf. Roedd y pentref yn gyrchfan wyliau boblogaidd gan bobl y trefi yn y cyfnod Fictoraidd ac Edwardaidd, a beth am fentro i lawr y llethr serth o'r castell a cherdded dros y cregyn cocos gweigion i draeth diarffordd Bae Scott.
Map ›

  • Mae toiledau, caffis a bwytai ym mhentref Llansteffan.
  • Mae lleoedd parcio ar gael ar hyd y blaendraeth.
  • Ni chaniateir cŵn ar y prif draeth rhwng mis Mai a mis Medi.
  • Mae mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn ar hyd llwybr y blaendraeth.
  • Mae Llansteffan ar Lwybr Arfordir Cymru.
  • Mae Castell Llansteffan gerllaw (Mynediad am ddim).

Glanyfferi

Ferryside

Wrth geg afon Tywi mae Glanyfferi, ac er ei fod yn lle digon tawel mae ganddo ei orsaf reilffordd ei hun (ar y llinell o Lundain i Abergwaun) ac mae'n gartref i Glwb Cychod Hwylio Afon Tywi. Nid yw twristiaid yn heidio i'r llecyn hwn, felly mae'n fan hamddenol sydd â golygfeydd godidog o gastell Llansteffan a'r aber. Roedd y traeth tywodlyd a chul hwn, sydd ag egin-dwyni, yn ganolbwynt diwydiant casglu cocos Bae Caerfyrddin ar un adeg, ac mae'n lle dymunol i'r sawl sydd am gamu oddi ar y trên a throedio'r arfordir.
Map ›

  • Parcio.
  • Nid oes dim toiledau ar y traeth.
  • Mae bwyty ger y fynedfa i'r traeth.
  • Mae mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn.
  • Mae Glanyfferi ar Lwybr Arfordir Cymru.
  • Mae yno orsaf ar y brif reilffordd.

Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli

Millennium Coastal Park, Llanelli

Mewn cyfnod o ychydig dros 10 mlynedd mae rhan o'r arfordir (22 cilometr o hyd) ar hyd aber afon Llwchwr wedi cael ei thrawsnewid i greu amrywiaeth unigryw o atyniadau i dwristiaid, cynefinoedd bywyd gwyllt, a chyfleusterau hamdden. Mae gan y Parc Arfordirol sawl traeth euraidd yn cynnwys Machynys, traeth Llanelli, a thraethau Porth Tywyn (lle mae dau draeth - un bob ochr i'r harbwr!). Mae marina mwyaf newydd Cymru, sydd â lle i 450 o gychod, yn rhan o'r Parc yn ogystal. Mae Marina Porth Tywyn yn cynnig cyfuniad perffaith o gyfleusterau a hamdden i berchnogion cychod. MORE...
Map ›

  • Mae bwytai ym Mhorth Tywyn. Mae caffi yn y Pwll. Mae bwytai yn y Ganolfan Ddarganfod ac yng Nghanolfan Adar y Gwlyptir, Llanelli.
  • Mae toiledau ym Mhorth Tywyn, yn y Ganolfan Ddarganfod ac yng Nghanolfan Adar y Gwlyptir.
  • Mae mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn ledled y parc.
  • Mae lleoedd parcio ar gael ym Mhorth Tywyn, y Pwll, Parc Dŵr y Sandy, Doc y Gogledd a Chanolfan Adar y Gwlyptir.
  • Mae'r Parc ar lwybr beicio cenedlaethol 4.
  • Mae'n rhan o Lwybr Arfordir Cymru.