Darganfod Sir Gaerfyrddin
CIPOLWG AR

Cynefinoedd Naturiol

Cynefinoedd Naturiol

Yr Aber (Llansteffan / Moryd Byrri)

Cynefinoedd Naturiol

Mae Bae Caerfyrddin yn gynefin sy'n denu adar, nid yn unig am ei fod yn un o'r ddwy Ardal Gwarchod Arbennig ym Mhrydain ond hefyd am ei fod yn hafan gaeafu i adar y gwlyptir a rhydwyr - sy'n plymio i'r dyfroedd cymharol fas ac sy'n turio yn y llaid i wledda ar yr holl fwyd sydd ar gael. Mae'n werth chwilio'n benodol am glystyrau o fôr-hwyaid du ar y môr (hwyaden dywyll yw hon sydd â phig golau). Yn ystod y gaeaf mae'r aberoedd yn bywiocáu. Bydd galwadau taer piod y môr yn diasbedain ar hyd yr aberoedd wrth i'r adar du a gwyn hyn grwydro'r glannau er mwyn chwilio am fwyd, a bydd cymylau o bibyddion yr aber yn chwyrlio dros y fflatiau llaid sy'n gyforiog o fwydon a llyngyr o bob math.

Yr arfordir creigiog (Pentywyn)

Cynefinoedd Naturiol

Mae micro-fyd cyfan yn bodoli yn y pyllau yn y baeau bychain oddi tan i'r clogwyni sydd i'r gorllewin o Bentywyn. Yn llechu yn yr agennau dyfnion yn y creigiau ac ymysg y gwymon y mae pysgod bychain, corynod môr, llygaid meheryn, crancod, corgimychiaid a sêr môr, ac mae'r dŵr heli yn cael ei adnewyddu gan bob penllanw. Dyma gyfle ichi gael cip manwl ar drawstoriad perffaith o fywyd y môr. Heb amheuaeth mae corgimychiaid ymysg preswylwyr mwyaf diddorol y pyllau hyn, ac ymysg y mwyaf cyfrwys yn bendant. Creaduriaid sydd â llygaid bychain duon, sydd â nifer o goesau heglog, ac sydd bron yn dryloyw yw'r rhain ac maent yn symud eu cynffon fel gwyntyll er mwyn gallu mynd yn chwim tuag at yn ôl os cânt eu bygwth. Perthynas agos i gorgimychiaid yw berdys. Maent yn debyg i'w gilydd ond bod gan berdys liw brown golau. Tueddant i lechu mewn tywod.

Twyni tywod (Pen-bre)

Cynefinoedd Naturiol

Mae twyni'n symud drwy'r amser, ac mae nifer o gyfnodau yn eu datblygiad gan gynnwys bod yn egin-dwyni, yn dwyni melyn lled sefydlog ac yn laswelltir twyni llwydion sefydlog. Ceir planhigion unigryw yn y cynefin hwn, gan gynnwys trilliw y tywyn, crwynllys, gludlys, a phig yr aran ruddgoch ac mae'r rhain yn eu tro yn golygu bod yma fagwrfa arbenigol i ieir bach yr haf megis y glesyn bach ac i wenyn unigol. Yn y gwanwyn y mae'r twyni ar eu mwyaf lliwgar, gan fod y melynydd, y trilliw a'r briwydd felen yn eu blodau ac yn denu trychfilod megis y falwoden 'thesba pisana muller' sy'n cuddio mewn planhigion i osgoi'r tywod chwilboeth. Yn agosach at y môr bydd chwain y traeth i'w gweld ymysg y broc môr. Mae i bob peth ei bwrpas, ac mae chwain y traeth yn treulio eu hoes yn gwledda ar wymon sy'n pydru ar y traeth. Mae'r chwain hyn yn defnyddio'r haul a'r lleuad, yn ogystal â gronynnau bychain o dywod a lleithder, i ddod o hyd i'r ffordd ar hyd y traeth gan lamu'n wyllt pan fo angen dianc. O leiaf y gallant ddianc, yn wahanol i'r slefrod môr anffodus.

Gweld...

Cynefinoedd Naturiol

Po fwyaf llonydd rydych, po fwyaf a welwch. Mae'n werth mynd yn dawel iawn at bwll dŵr a adawyd gan y trai i gael golwg ar beth sy'n byw yn y micro-gynefin hwn. Efallai y gwelwch wlithod môr yn tramwyo'r cerrig, berdys yn ymrithio yn y tywod, corynod môr yn gryndod i gyd gan esgus bod yn wymon, hyrddiaid llwyd bychain yn y dŵr bas ac wrth gwrs ambell granc sy'n destun cyfaredd inni oll. Creadur diddorol yw'r cranc sy'n symud wysg ei ochr. Amrywia crancod o ran maint, lliw a ffurf, a'r unig bryd y maent yn symud o'u cuddfan yw pan fo gwir angen gwneud hynny; a hynny naill ai i wledda neu i erlid cranc arall o'r diriogaeth. Taflwch damaid bach o gig o'ch bocs bwyd i'r pwll ac arhoswch yno'n llonydd i weld beth ddaw heibio i fwyta'r cig. Chwilotwch am grancod meudwy, sy'n chwilio am gregyn gwag i fyw ynddynt. Mae'r efail dde'n fwy na'r un chwith, gan taw hon sy'n cau agoriad y gragen. Efallai y gwelwch anemonïau môr coch, sy'n perthyn i gwrel ac sydd â thentaclau hir. Yn ddamcaniaethol gallant fyw am byth ond, fel sy'n wir am y rhan fwyaf o greaduriaid y môr, ymhen hir a hwyr byddant yn fwyd i rywbeth arall.

Teimlo...

Cynefinoedd Naturiol

Bydd llygaid meheryn ar unrhyw greigiau sy'n is na'r marc penllanw; rhoddwch gynnig ar dynnu un oddi ar y graig cyn i'r 'goes' gref ei sugno'n ôl; os llwyddwch i'w godi teimlwch y 'goes'cyn rhoi'r creadur yn ei ôl. Mae codi gwichiad yn rhwydd, ond mae perygl i wichiaid ac i lygaid meheryn sychu'n grimp pan fo'r môr ar drai. Defnyddia gwichiaid gloryn tryloyw tenau i selio'r agoriad, ac mae llygaid meheryn yn cadw dŵr o dan y gragen gan gydio'n gadarn yn y graig. Yn y cyflwr hwn mae'r naill greadur a'r llall yn treulio'r algâu y buont yn gwledda arnynt o dan y dŵr. Mae sêr môr yn hawdd eu gweld ac ar ôl codi un, trowch hi wyneb i waered i deimlo'r cannoedd o sugnolion sydd oddi tani. Defnyddia'r seren fôr y rhain i symud yn llafurus i gael ei phryd nesaf. Creadur rheibus yw'r sêren fôr sy'n agor cregyn gleision neu gregyn llong, gan osod ei stumog ei hun ynghanol y prae i wledda arno ac yna tynnu ei stumog yn ôl i'w ffurf pum bys.

Arogli...

Cynefinoedd Naturiol

Gall arogleuon cynnes a sych moresg ar y twyni tywod beri ichi gredu eich bod mewn gwlad gynnes dramor. Mae'r coesynnau pigog, sy'n finiog iawn, a'r gwreiddiau hir yn golygu bod y planhigyn hwn yn gallu goroesi mewn twyni sych ar hyd y glannau, gan sefydlogi'r tywod sych ac atal y gwynt rhag ei chwythu i bob man. Pan fyddwch yn mynd am dro ar hyd y morfeydd ar ddiwrnod gwyllt yn y gaeaf bydd blas yr heli ar wynt y gorllewin - sydd mor iachus gan roi egni ichi a pheri ichi gael noson dda o gwsg. Mae arogl gwymon mor nodweddiadol o'n glannau - ac yn hollol wahanol i unrhyw arogl yng nghefn gwlad. Ar ben hynny mae gwymon yn ffynhonnell dda o ïodin. Mae'r gwymon a olchir ar y traethau yn wledd i chwain y traeth.