Darganfod Sir Gaerfyrddin
CIPOLWG AR

Dilynwch y Rhufeiniaid

Prosiect Dilynwch y Rhufeiniaid

Y Pigwn

Drwy hud technoleg fodern, gallwch gamu'n ôl oddeutu 2,000 o flynyddoedd a chael eich tywys o amgylch y gwersylloedd cyrch yn y Pigwn a chaer fechan Waun Ddu, gan Rory eich tywysydd a Primus, milwr Rhufeinig llawn asbri. Mae'r App rhad ac am ddim, sydd ar gael ar iOS ac Android yn ail-greu'r gwersylloedd drwy animeiddio ac yn cynnwys ffotograffau panoramig a disgrifiadau clywedol o brofiadau go iawn o fywyd ar ymgyrch, sut roedd y Rhufeiniaid yn adeiladu eu gwersylloedd a pham y daethant i Dde Cymru. Argymhellir eich bod yn ei lawrlwytho drwy WiFi cyn eich ymweliad oherwydd y signal symudol annibynadwy ar y safle. *(Ar gael ar i phone ac Android)

Garn Goch

Garn Goch

Dewch i weld Garn Goch, yr anheddiad o'r Oes Haearn - y mwyaf ond un - sy'n sicr yn un o'r mwyaf trawiadol o holl fryngaerau Cymru. Hwn oedd cartref y Silwriaid, llwyth grymus a rhyfelgar o Brydain fore, ac mae’r Garn a'i threm dros Ddyffryn Tywi, llwybr hollbwysig yn y goncwest gynnar Rufeinig yn y rhan hon o Gymru. Beth am lawrlwytho'r daflen i gyd-fynd â'ch ymweliad. Mae arwyddion i'ch cyfeirio at Garn Goch o bentref Bethlehem sydd rhwng Llandeilo a Llangadog. I gynllunio eich ymweliad, ac i lawrlwytho eich App, ewch i breconbeacons.org/romans i gael rhagor o wybodaeth.

Dolaucothi

Dolaucothi

Trowch yn fwnchwiliwr yn yr unig fwynglawdd aur Rhufeinig a adwaenir ym Mhrydain. Cerddwch yn ôl troed y milwyr Rhufeinig a warchodai'r safle hynafol hwn 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Crwydrwch ar hyd ffasys tanddaearol y mwyngloddiau Rhufeinig er mwyn deall mwy am y dechnoleg fwyngloddio a ddefnyddiwyd i dynnu aur o lechweddau gogledd Sir Gâr yn y Ganrif 1af. Rhodiwch drwy gynefin gogoneddus ac amrywiol Dyffryn Cothi, sy’n safle porth ar gyfer hanes anhygoel y 'Rhufeiniaid yn Sir Gâr'.

Ar Agor (y mwyngloddiau aur, y siop a'r ystafell de): Bob dydd rhwng mis Mawrth a mis Hydref. I gynllunio eich ymweliad ewch i: nationaltrust.org.uk/dolaucothi-gold-mines - am fwy o wybodaeth yn cynnwys yr oriau agor a'r prisiau mynediad.

Amgueddfa’r Sir, Abergwili

Amgueddfa’r Sir, Abergwili

Gadewch y 21ain ganrif a darganfyddwch stori Rufeinig Sir Gaerfyrddin. Mae ein harddangosfeydd newydd yn archwilio bywyd y Rhufeiniaid a brodorion, milwyr a sifiliaid ar ymyl yr Ymerodraeth Rufeinig. Mae dyled iddyn nhw am yr enw Caerfyrddin, ond pa mor Rhufeinig oeddem ni? Dysgwch sut ddaeth Caerfyrddin yn dref bwysig ag yn brif ddinas lwythol. Feindiwch allan tamaid bach ragor am beth mae’r Rhufeiniaid wedi’u wneud i ni. Efallai byddwch yn synnu.

Ar agor drwy’r flwyddyn (ar gau Nadolig - Flwyddyn Newydd). Gwelwch ein gwefan am amserau agor: museums.carmarthenshire.gov.uk Mynediad am ddim.

Dref Caerfyrddin

Dref Caerfyrddin

Roedd Caerfyrddin ymhlith y caerau milwrol a sefydlwyd gan y llengoedd Rhufeinig yn ystod y goncwest. Cafodd y gaer ei sefydlu oddeutu’r flwyddyn 75OC, ond cafodd ei lleihau’n fuan o ran maint ac roedd yn segur o fewn rhai cenedlaethau. Cafodd tref fawr â mur o’i chwmpas ei datblygu yn lle’r gaer erbyn y drydedd ganrif OC. Credir bod Moridunum, neu’r "gaer ger y môr," wedi dod yn brif dref Demetia, wrth i’r boblogaeth frodorol fabwysiadu ffyrdd o fyw tebyg i rai’r Rhufeiniaid.

Dethlir y ffaith mai Caerfyrddin yw’r dref hynaf yng Nghymru y mae pobl wedi byw’n ddi-dor ynddi, ac mae’r dref yn falch o’i gwreiddiau Rhufeinig. Mae nifer o brosiectau cloddio archaeolegol wedi cynnig ambell gipolwg ar fywyd yn y dref Rufeinig. Mae safle teml wedi ei nodi ac mae gweithdai nifer o fasnachwyr wedi eu datgelu hefyd.

Mae’n bosibl o hyd gweld lleoliad muriau’r dref Rufeinig ym mhatrymau y strydoedd modern, ond yr amffitheatr yw’r unig strwythur Rhufeinig amlwg yn y dref. Mae’r rhan fwyaf o gyfrinachau’r dref Rufeinig wedi’u claddu o hyd dan y dref bresennol.

Amphitheatre Carmarthen

Amffitheatr Caerfyrddin

Yr amffitheatr hon yw'r unig olion amlwg sy'n weddill, uwchlaw'r ddaear, o'r dref Rufeinig yng Nghaerfyrddin. Saif yr amffitheatr 250 metr i’r gogledd-ddwyrain o furiau’r dref Rufeinig, wrth ymyl y ffordd Rufeinig ar hyd dyffryn Tywi, a châi ei defnyddio’n ôl pob tebyg yn ystod yr ail ganrif OC. Dyma un o bedair yn unig o amffitheatrau Rhufeinig y gwyddys amdanynt yng Nghymru gyfan.

Roedd yr amffitheatr yn lle cyhoeddus a châi seremonïau crefyddol, gorymdeithiau, digwyddiadau gwleidyddol, ffeiriau, marchnadoedd a gwahanol fathau o adloniant eu cynnal yno. Amcangyfrifir bod lle i rhwng 4,500 a 5,000 o bobl eistedd.

Aeth yr amffitheatr yn angof am ryw 1,500 o flynyddoedd. Cafodd ei hailddarganfod yn 1944 pan gymerodd George Ovens, Arolygwr Bwrdeistref Caerfyrddin, ddiddordeb mewn pant hirgrwn ar dir lle bwriedid adeiladu ystâd newydd o dai. Awgrymodd mai safle amffitheatr Rufeinig ydoedd a chymerodd gamau i atal y safle rhag cael ei ddatblygu.

Yn 1968, yn dilyn gwaith cloddio archeolegol gan yr Athro Barri Jones, profwyd yn derfynol mai amffitheatr Rufeinig oedd yma. Llwyddodd rhagor o waith cloddio yn 1970, dan arweiniad John Little, CuradurAmgueddfa Caerfyrddin, i ddatgelu’r mur o amgylch yr arena a thystiolaeth o leoedd eistedd ar y llethrau neu’r cavea o’i hamgylch. Mae’r nodweddion hyn wedi eu hailadeiladu i ryw raddau ar sail y dystiolaeth a ganfuwyd yn ystod y gwaith cloddio.

Cynllun Partneriaid Cyllido